Cytundeb cyfrinachedd
Diweddarwyd ddiwethaf ar 07/03/2017
Data a gesglir ac a brosesir gennym.
- Eich lleoliad: rydym yn defnyddio eich lleoliad i awgrymu sefydliadau partner gerllaw. Nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chadw na'i chysylltu â phroffil defnyddiwr.
- Eich cyfeiriad e-bost: os gwnewch archeb ar ap symudol Affluences neu ar ein gwefan, byddwn yn gofyn am gyfeiriad e-bost i gadarnhau'r archeb. Nid ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod yn bersonol nag at ddibenion masnachol.
- Metrigau defnydd: Rydym yn defnyddio gwasanaethau Google Analytics a Fabric i bennu eich patrymau defnydd, ac i gael gwybodaeth am berfformiad a sefydlogrwydd eich cyfrifiadur, rhaglen symudol a'r wefan. Nid yw'r gwasanaethau hyn yn casglu data personol.
Gwybodaeth rydym yn ei rhannu
Pan fyddwch yn gwneud archeb o'r rhaglen symudol neu'r wefan, caiff y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych ar gyfer yr archeb ei anfon ymlaen at y sefydliad dan sylw.
Diweddariad datganiad
Efallai y byddwn yn addasu neu'n diweddaru'r datganiad hwn. Yn yr achos hwn, byddwn yn diweddaru ei ddyddiad cyhoeddi ar frig y dudalen hon. Trwy barhau i ddefnyddio ein gwasanaeth, rydych yn derbyn y newidiadau dan sylw.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad hwn, cysylltwch â ni yn contact@affluences.com.
